AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
DATHLIAD NOS GALAN

DATHLIAD NOS GALAN

Nos Galan Castell Deudraeth


"Dathlu Nos Galan 2024"


Dewch i groesawu’r flwyddyn newydd ym mhentref Portmeirion.

 

£1050*


*Mi fydd y pecynnau wedi' selio ar llofft dwbwl i ddau yn y pentref

Cysylltwch gyda'r Swyddfa Lety ar 01766 770000 neu ebostiwch  aros@portmeirion.cymru

 

Isod fe welwch amserlen dathliadau Nos Galan y pentref.
*Mae pob archeb bwrdd yn amodol ar argaeledd ar adeg archebu.

 

30fed Rhagfyr

Ar ôl cyrraedd y safle a cofrestru, ymgartrefwch yn eich ystafell, ac yna gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni am de prynhawn a gwydraid o win byrlymys.
Gweinir Te Prynhawn rhwng 14:00 a 16:00, ym mhob rhan o’r lolfeydd a’r bwyty
ar fyrddau cymunedol.

Yn dilyn prynhawn hamddenol, gellir archebu swper sydd wedi ei gynnwys yn eich pecyn naill ai yng Ngwesty Portmeirion neu yng Nghastell Deudraeth.

Bore Nos Galan 

 

Gweinir brecwast yn y Gwesty os yn brewsyl yn yr adeilad neu yn y pentref. Mi fydd Brecwast ar gael i westeion y Castell ym Mwyty’r Castell. Bydd angen archebu brecwast o flaen llaw yn ystod y broses archebu.

Ar ôl brecwast hamddenol efallai yr hoffech grwydro’r Pentref a'r Gwyllt.

Gellir archebu cinio yng Nghastell Deudraeth os y dymunwch

(Nid yw hyn yn gynnwysiedig yn eich pecyn).

Nos

Bydd Gwesty Portmeirion yn arddangos y gorau o gynnyrch Cymreig gyda’u Bwydlen Blasu Nos Galan. Noson i wisgo eich dillad gorau ac mi fyd derbyniad coctel cyn swper fydd yn cael ei weini ar fyrddau cymdeithasol.

Mi fydd y wledd yn cael eu weini rhwng 6 – 12.

Yn dilyn y wledd fe fydd y bar wedi’i drawsnewid, ac mi fydd yna fand yn chwarae hyd at ddathliadau Hanner Nos.

Am Hanner Nos, gewch wydraid o Siampen a gwneud llwnc destun i'r flwyddyn newydd a mwynhau'r tân gwyllt uwchben aber y Dwyryd.



Os yr hoffwch yn lle - fedrwch archebu lle yng Ngastell Deudraeth ar gyfer Nos Galan. (Manylion pellach or cynnig yn y Castell i ddilyn)


 

1af Ionawr 2025

Ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn mwynewch eich brecwast ac yna wedi i chi adael eich lloft am 11:00 mae yna groeso i chi dreulio mwy o amser yn y penref os y dymunwch.

 

Nodwch os gwelwch yn dda bod y blaendal yn gyfartal a ½ pris y pecyn. Mae hwn yn daladwy wrth greu'r archeb ac nid yw'n bsib drosglwyddo nac yn ad-dalu'r swm os bydd angen canslo. Rydym yn argymell bod gwesteion yn archebu yswiriant teithio rhag ofn.

Bydd y balans Terfynol yn daladwy 8 wythnos cyn cofrestru.



Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more