Hufen iâ wedi ei wneud yn y fan a'r lle.
Siop goffi a gelateria yw Caffi'r Angel yng nghanol pentref Portmeirion. Gwneir yr hufen iâ yn ffres bob dydd gan ddefnyddio llefrith lleol o ffermydd Eifionydd a chynhyrchion ffres lleol eraill. Seddi ar gael y tu mewn a'r tu allan.
Mae Caffi'r Angel yn cynnig dewis helaeth o gacennau, coffi, gwin a diodydd eraill.