Skip to content

Planhigion

Planhigion o ddiddordeb cyfredol yng ngerddi Portmeirion 2008
 

Blodau Tri Lliw ar Ddeg - Awst 2008


Plannwyd rhain ar hyd rhodfa glan môr y gwesty gan Clough Williams-Ellis yn y tri degau pan adeiladodd y Tŵr Gwylio. Mae'r blodau yma wedi cael eu hail-blannu yma ar ôl cyfnod pan blannwyd yr ardal efo fflacs Seland Newydd.


Lleoliad - ceir y blodau lliwgar yma mewn sawl lle yn y pentref ac ar hyd y dreif rhwng y Castell a'r pentref.

Tarddiad - yn wreiddiol o Tseina a Siapan.

Ffeithiau - bydd y blodau'n parhau am gyfnod maith.  Mewn gwirionedd blodau pitw iawn yw'r gwir flodau, gan fod y dail lliwgar a welwch wedi datblygu i ddenu pryfaid. Gall y lliw amrywio ar yr un llwyn. Maen nhw'n addas ar gyfer eu plannu yn hinsawdd yr arfordir.

 

 

Callistemon citrinus ( y 'brwsh potel' ) : Gorffennaf 2008


Plannwyd - 1980au
Lleoliad - Ger y Gatws

Tarddiad - mewnforiwyd o Awstralia yn 1788.

Ffeithiau - llwyn canolig ei faint gyda dail cul a blodau cochion prydferth tebyg i frwsh potel sy'n tyfu ar bennau'r brigau bwaog yn ystod yr haf.  Ceir clystyrau tynn o flodau lled wyrdd o gwmpas y brigau, a daw enw cyffredin y llwyn oherwydd fod y briger coch yn edrych yn debyg i frwsh glanhau potel.  Daw'r clystyrau rhyfedd o gapsiwlau prennaidd ar dyfiant brigau sy'n ddwy neu dair oed, ond pan fydden nhw'n tyfu'n naturiol yn Awstralia, bydd y llwyn yn aros am wres o dân yn y gwylltir cyn rhyddhau ei hadau.  O ddadansoddi'r enw Lladin botanegol am y llwyn hwn - Callistemon - mae calli'n golygu prydferth, a stemon yn cyfeirio at y briger.


MEHEFIN-GORFFENNAF 2008

 

Cornus kousa var. chinensis ( Coeden Coed y Cŵn): Mehefin - Gorffennaf 2008

Plannwyd - 1980au
Lleoliad - Mae nifer o'r rhain i'w gweld yn Y Gwyllt ac mae nifer o enghreifftiau da ger Caffi Glas.

Ffeithiau - o ran Botaneg, mae nifer o wahanol fathau o lwyni Coed y Cŵn, pob un â blodau bach.  Mae un grŵp o goed bach yn cynnwys Coed Cŵn addurniadol sy'n blodauo yn yr haf drwy arddangos dail lliwgar a elwir 'bractiau' sy'n ymddangos fel blodau.  O ran lliw, maent fel arfer yn hufen, pinc neu binc tywyllach,ac mae'r rhain yn helpu denu pryfed i beillio'r clwstwr o flodau bychan iawn ynghanol y bractiau.  Detholwyd y mathau gorau ar gyfer cael arddangosfa liwgar.  Dwy goeden fach eithriadol ar gyfer gerddi cysgodol cyfyng ond sydd hefyd â phridd llaith yw Cornus 'Norman Hadden' a Cornus 'Porlock'.  Mae'r ddwy yma'n goed blodeuog trawiadol, sy'n llunio haenau o flodau ar wyneb canghennau bwaog, ac o bellter, maent yn edrych fel haenau cacen briodas, neu orchudd o eira hufennog.  Trwy Mehefin a Gorffennaf, mae'r bractiau'n dal yn lliwgar, ac yn dilyn y blodau bychain canolog, daw ffrwythau tebyg i fefus, y gellir eu bwyta.

 


Nymphaea 'Fulgens' (Lili Ddŵr Goch) : Mehefin 2008

LLeoliad - Gerllaw'r bont Tseineaidd ar y llyn mawr yn y Gwyllt

Tarddiad - Tyfwyd ar gyfer gerddi.
Ffeithiau - Mae gan y ffurf hon ar y lili ddŵr flodau coch o liw gwin Bwrgwyn a dail gyda gwawr biwslyd sy'n ffurfio cyferbyniad dramatig gyda'r lili ddŵr wen doreithiog ar y llyn.

Mae llawer o rywogaethau'r lili ddŵr wedi'u dethol a'u meithrin i roi blodau lliw cyfoethog - gwyn, melyn neu goch.  Fel arfer, yn y trofannau mae'r lili ddŵr las i'w gweld, ond yn 2008, honnodd meithrinfeydd yng ngwlad Thai eu bod wedi llwyddo i feithrin lili ddŵr las galed a alwyd yn Nymphaea 'Siam Blue Hardy'. Ceir lili ddŵr anferth yn nghanolbarth Brasil, mewn dŵr llonydd neu araf ei symudiad ar yr Amazon.  Mae'r dail yn 2 fetr o led gyda phatrwm o wythiennau fu'n ddylanwad ar gynllun tai gwydr Fictoraidd fel y Crystal Palace yn ystod y Great Exhibition yn 1861 ac yn Chatsworth House, Swydd Derby. Cafodd y lili ddŵr anferth enw Lladin brenhinol gan y botanegwyr sef Victoria amazonica i anrhededdu'r Frenhines Victoria ac afon ryfeddol yr Amazon.  Bydd y blodau mawr gwynion yn cau yn ystod y nos, gan gau chwilod i'w pheillio.  Os bydden nhw'n llwyddiannus, bydd y blodau'n agor y diwrnod canlynol yn lliw coch ysgafn.  Os hoffech chi weld y planhigyn rhyfeddol hwn, byddai'n rhaid ichi deithio i ardal Manaus yn Brasil neu i'r Gerddi Botanegol yn Kew yn ystod yr haf.

 

Aesculus indica ( Castanwydden India ) : Mehefin 2008

Plannwyd - Yn gynnar yn yr 1980au
Lleoliad - Coeden ddeniadol, oddeutu 30 mlwydd oed, ar ochr chwith y brif ddreif yn ymyl yr ardd furiol a'r feithrinfa, wrth ichi nesu at Gastell Deudraeth, gyda'r castell ar y dde.  Mae coeden arall iau, tua hanner ei hoed a'i maint, yn ymyl y prif faes parcio.

Tarddiad - Fel y mae enw'r rhywogaeth yn awgrymu, mae'r goeden hon yn dod o India'n wreiddiol.  Am ei bod yn tyfu'n goeden fawr mewn coedwig gymysg yn nyffrynnoedd uchel mynyddoedd yr Himalaia gorllewinol, drwy Afghanistan, Pakistan, India ac ymlaen i Nepal, mae hi'n goeden wydn sy'n gallu gwrthsefyll oerfel.  Enw mwy addas felly fyddai Castanwydden yr Himalaia. 
Ffeithiau - Mae'r Gastanwydden Indiaidd yn whanol i'r Gastanwydden gyffredin oherwydd fod ganddi ddail cul siâp llaw, rhisgl mwy llyfn a ffrwythau llyfn yn amgylchynu'r hadau.


Mae'r blodau dramatig crynion yn aml yn cael eu galw'n ganhwyllau ac o liw gwyn gyda gwawr binc, a marciau melyn a choch arnynt. Daw'r Gastanwydden yn wreiddiol o Albania a Macedonia, gan flodeuo'n gynnar yn y gwanwyn.  Ymestynnir tymor blodeuo'r rhywogaeth gan y Gastanwydden Indiaidd, sy'n blodeuo ym Mehefin a Gorffennaf.  Yr olaf i flodeuo, a hynny yn Awst, ydy'r Gastanwydden Aesculus paviflora, sy'n tarddu o dde-ddwyrain yr Unol Daleithiau.  Gellir gweld un ar ffurf llwyn yn yr ardd addurniadol gerllaw'r goeden fagnolia fawr yr ochr draw i'r Caffi Glas.

 

Embothrium coccineum ( Llwyn Tân Tsili) : Mehefin 2008


Plannwyd - 1980au
Lleoliad - Fe'i gwelir yn y goedwig addurniadol uwchlaw'r bwyty, i fyny ac ar hyd y grisiau serth ar lwybr y goedwig sy'n arwain at y Llyn Tsieineaidd.
Tarddiad - Coeden fythwyrdd gul sy'n ymdebygu i lwyn ac sydd i'w gweld ym môn coedwigoedd mynyddoedd yr Andes yn ne Tsili.


Ffeithiau - Perthyn i deulu'r PROTEACEAE mae Llwyn Tân Tsili, gan darddu'n bennaf o hemisffer y De.  Maent yn ddigon anodd eu tyfu, gan eu bod angen hinsawdd cysgodol ond heulog yn y DU.  Mae'r enw Llwyn Tân a'r Lladin am coccineum yn cyfleu coch, ac mae'r sypynnau trawiadol o flodau yn lliw coch tanbaid.  O yma draw, mae'r goeden gul, gymharol fach, yn edrych fel petai ar dân.

 


Liriodendron tulipifera (Coeden Diwlip) : Mehefin 2008


Plannwyd - Amcangyfrifir fod y goeden aeddfed hon tua 200 mlwydd oed.
Lleoliad - Mae enghraifft fawr iawn o'r goeden hon yn tra-arglwyddiaethu ar yr ardal o gwmpas y prif siopau yn rhan uchaf y Sgwâr canolog.

Tarddiad - Mae'n tyfu drwy'r darnau dwyreiniol o Ogledd America.
Ffeithiau - Mae'r blodau siâp tiwlip yn felynwyrdd gyda marciau lliw oren oddi mewn iddynt, gan edrych braidd yn debyg i Fagnolia fach, sy'n perthyn i'r un teulu.  Yn ystod yr haf, nid yw'n hawdd cael golwg manwl ar y blodau gan fod hen goed yn ddueddol o fod heb ganghennau isel ac mae'r blodau o'r herwydd yn cael eu cynhyrchu ar gopa ucha'r goeden lle maent yn cael eu cuddio gan ddail sydd hefyd ar ffurf tiwlip.  Hefyd, er ei bod yn goeden sy'n tyfu'n gyflym, ni cheir blodau ar goed sy'n iau nag ugain mlwydd oed.  Nodwedd ddymunol o'r goeden hon ydy pan fo'r dail yn troi'r felyn euraidd yn ystod yr hydref.  Cyflwynwyd y goeden diwlip Americanaidd, Liriodendron tulipifera yn 1650, sy'n egluro pam fod yna nifer fawr o hen goed tiwlip mewn coedlannau a pharciau.  Yr unig rywogaeth arall y gŵyr neb amdano yw'r goeden diwlip Tsieineaidd, Liriodendron chinensis, a gyflwynwyd yn 1901 o ganolbarth Tsieina.

 


Rhododendron 'Yr arth wen': Mehefin 2008


Lleoliad - Ceir amryw o enghreifftiau aeddfed ger y llynnoedd yn y goedwig addurniadol.

Tarddiad - Datblygwyd ar gyfer gerddi.
Ffeithiau - Llwyn ardderchog gyda blodau gwynion mawr sy'n ymestyn tymor blodeuo'r rhodendronau  tua'r haf. 

Mehefin 2008


Trachycarpus fortunei (Palmwydden y Felin Wynt) : Mehefin 2008

Plannwyd gan Susan Williams-Ellis yn bennaf ddechrau'r 1980au.
Lleoliad - gerllaw'r Sgwâr Canol ac ynghanol y pentref.
Tarddiad - Ni wyddys yn union o ble mae'n hanu ond y tebygolrwydd yw y daw o fynydd-dir Tseina.
Ffeithiau - Gall Trachycarpus fortunei fod yn wryw neu'n fenyw. Mae'r coed benyw yn blodeuo ym Mehefin ac os oes coed gwryw yn y cyffiniau a gwenyn i'w cynorthwyo, gall y coed benyw ddwyn ffrwythau bychain piws. Rhes o rai benywaidd sydd ar ochr y Sgwâr Canol a'r rheini'n gyforiog o flodau ar hyn o bryd.

 

Dipteronia sinensis (y Ddipteronwydden) : Mehefin 2008

Plannwyd- canol yr 1980au
Lleoliad - pen pella Llyn y Deml tua'r gorllewin
Tarddiad - coeden eiddil brin o ganol Tseina

Ffeithiau - Does gan hon ddim sbloet o flodau ond yn hytrach flodau gwyrddlas pitw ganol yr haf. Mae hi'n goeden brin ac yn perthyn i rywogaeth yr ACERACEAE sy'n cynnwys y fasarnen a'r sycamorwydden. Gall fod yn anodd adnabod y goeden hon ond mae'r blagur neu'r egin yn nodwedd ynghyd â'r dail cyfansawdd a'r ffrwythau gydg adenydd a geir yn yr hydref.

 

Echium pininana ('Bwglos Porffor' neu 'Porffor y Graean' ): Mehefin 2008

Plannwyd: 1990au cynnar
Lleoliad: gwelyau rhwng Yr Angor a'r prif Westy, gwelyau ger Rhes Siantri a'r Gromen

Tarddiad: Cynhenid o La Palma, Ynysoedd Canarïa (fe'i ceir hefyd yn Ne Ewrop, Ynysoedd y Môr Canoldir, Gogledd Affrica, Madeira a'r Asores)
Ffeithiau: Hunan-hadol

Fe'i adnabyddir hefyd fel 'Balchder Tenerife' (Pride of Tenerife), 'Tŵr y Tlysau' (Tower of Jewels), 'Bwglos Porffor' neu 'Porffor y Graean' (Purple Viper's Bugloss). Daw'n frodorol o La Palma, rhywogaeth gynhenid o goedwig llawryf y cwmwl sydd dan fygythiad mawr. Mae'n creu dail mawr llydan. Deniadol iawn, hyd yn oed fel planhigyn diflodyn. Mae ei fflurgainc anferth yn cyrraedd hyd at 4m o uchder, ac yn cynnwys blodau fioled glas dirifedi. Bydd yn tyfu'n fonocarpig (h.y. mae'n creu un rhoséd llydanddail ar goesyn tal, anferthol 50cm). Mae angen llecyn rhannol gysgodol a llaith arno bob amser, ychydig yn fawnaidd, ond gyda phridd sydd wedi ei ddraenio'n dda. Blodeua o fewn 4 blynedd. Planhigyn prin eithriadol ac aruchel sy'n dwyn fflurgainc odidog ac sydd, yn ei gynefin brodorol, sef Ynysoedd Canarïa, yn tyfu i dros 12 troedfedd. Mae'r blodau unigol dirifedi sydd arno yn las. Mae'n debyg mai hwn yw'r caletaf o Fwglosau'r Canarïa ac fe'i tyfir y tu allan mewn nifer o lefydd yng ngwledydd Prydain. Monocarpig.

 

'Rhodfa'r Asalea' : Mehefin 2008

Plannwyd: 1990au cynnar ymlaen
Lleoliad: Gwyllt
Tarddiad: Japan a Tsieina yn ogystal â chroesryw

Mae asaleâu yn llwyni blodeuog sy'n llunio rhan o'r rhywogaeth Rhododendron. Yn wreiddiol, dosbarthwyd asaleâu fel rhywogaeth wahanol o blanhigyn, ond yn awr, fe'u hadnabyddir fel dau o'r wyth is-fathau o rhododendronau - is-rywogaeth 'Pentanthera' (collddail), ac is-rywogaeth 'Titsushi' (bytholwyrdd). Mae'r Rhododendronau yn tyfu eu blodau mewn rhesi, tra bod gan y mwyafrif o asaleâu flodau terfynol (un blodyn i bob coesyn blodyn). Er hyn, mae ganddynt gymaint o goesau, yn ystod y tymor blodeuo maent yn llawn lliw. Adnabyddir yr asaleâu wrth y blodau sy'n blodeuo i gyd gyda'i gilydd, mewn arddangosfa lachar am fis neu ddau yn y gwanwyn.


Nodweddion rhodfa'r asalea

'Rhododendron mucronatum' (Rhododendron blaenfain) (Asalea'r eira)

Mae gan hwn linach Tsieineaidd, ond ni chanfyddir ef yn y gwyllt. Fe'i defnyddir yn bennaf ar gyfer tocio addurnol, gan dyfu i 6 troedfedd o daldra a 4 i 6 troedfedd o led. Mae'n wydn hyd at Barth 5 -15 gradd F. Gorchuddir ei ganghennau niferus â dail bytholwyrdd hirgrwn, sy'n fodfedd a hanner i ddwy fodfedd a hanner o hyd, wedi eu gorchuddio â blew. Mae'r blodau gwyn persawrus, sy'n un i dair modfedd o led, yn blodeuo'n aml fesul pâr sydd weithiau wedi eu staenio'n wyrdd, lelog neu binc wrth y bôn, yn dibynnu ar yr amrywiaeth.

Rhododendron 'Johanna'

Fe'i hadnabyddir fel Asalea Japaneaidd 'Johanna', Asalea japonica 'Johanna' (Math: Rhododendron, Amrywiaeth neu Gyltifar: 'Johanna'), prysglwyn bytholwyrdd, cryno â dail bach lliw gwyrdd tywyll, sgleiniog a blodau fflamgoch yn hwyr yn y gwanwyn.

'Rhododendron croesryw' (Asalea Louise Dowdle Glen Dale)

Asalea bytholwyrdd cryno a ddatblygwyd yn bennaf ar gyfer caledwch oer y Taleithiau Atlantig Canol.
Mae'r blodau'n syndod o fawr a lliwgar, magenta gyda marciau coch yn y gwddf, o siâp twndis, a hyd at 3 modfedd o hyd. Blodeua yn hwyr ym mis Ebrill mewn ardaloedd cynhesach, ac mor hwyr â dechrau mis Mehefin lle mae'r hinsawdd yn oerach. Mae'r patrwm tyfiant yn ddwys, hyd at 3 troedfedd o daldra a lled. Dylid ei blannu yn union yr un modd ag y plennir asaleâu eraill: yn uchel mewn pridd asidig sydd wedi'i ddraenio'n dda, ac sy'n gyfoethog mewn sylwedd organig. Golau hidledig sydd orau. Er bod gan yr asaleâu restr hir o broblemau heintiau ac afiechydon posibl, ni cheir problemau â nhw fel rheol os ydynt wedi eu plannu'n gywir dan yr amodau priodol.


'Asalea Gwiwerod'

Plannwyd:  yn nechrau'r 1990au

Lleoliad - Islaw Craig y Castell

Ffeithiau:  Blodau ysgarlad llachar. Asalea bychan, cryno a chadarn iawn.

 

'Crinodendron Hookerianum' (Y Goeden Lusern): Mehefin 2008

Plannwyd: canol y 1990au
Lleoliad: Llwybr Ymylol a'r ardal o gwmpas Mynwent y Cŵn
Tarddiad: Brodorol o Chile (cylchfa dymherus)

Fe'i hadnabyddir hefyd fel y Goeden Lusern, ac mae ganddi lusernau rhuddgoch ar goesyn hir sy'n hongian yn dew ar hyd y canghennau ym mis Mai / Mehefin. Cyflwynwyd i'r DU gan William Lobb yn 1848 o Chile. Mae'n well ganddi dyfu mewn ardaloedd rhannol gysgodol. Mae coesau'r blodau yn ymddangos yn yr hydref, ond nid ydynt yn blodeuo hyd fis Mai. Brodor o Dde Chile ydyw ac mae'n gallu cyrraedd taldra o 30 troedfedd (9m) yn ei hardal gynhenid. Mae'r dail bytholwyrdd yn hirgul i waywffurf, bob yn ail, 1-3 modfedd (2.5-7.5 cm) o hyd, lliw gwyrdd tywyll ar yr ochr uchaf, lliw gwyrdd golau ar yr ochr isaf.
Mae'r blodau ceseiliol ar siâp cloch yn hongian. Maent yn goch, di-arogl, ac yn unigol neu mewn parau. Ymddangosant rhwng canol y gwanwyn a diwedd yr haf. Mae'r ffrwyth yn goden na ellir ei fwyta, ac sy'n hollti'n agored pan yn aeddfed. Planhigyn o hinsawdd dymherus sy'n perfformio orau o dan amodau pridd asidig ydy hwn.

 

'Puya Chilensis' : Mai 2008

Plannwyd: 1992
Lleoliad: Gardd Tŵr Telford
Tarddu o Chile
Ffaith: Blodau melyn. Prin iawn yn y DU.
Math o blanhigion o'r teulu pîn-afal (Bromeliaceae) o Dde America sy'n cynnwys tua 120 o rywogaethau.
'Bromelia daearol' yw'r 'Puya Chilensis', sy'n hanu o lechweddau crinsych Chile. Planhigyn parhaol bytholwyrdd ydyw sy'n ffurfio dail rhosedau trwchus llwyd-wyrdd mawr, fel strapiau ag ymylon pigau bachog. Caiff y blodau gwyrdd-felyn eu ffurfio ar bigau hyd at 2m o uchder sy'n debyg i ddrysfa ganoloesol. Mae'n ymledu drwy flaguro, a thros gyfnod o amser gall y 'Puya chilensis' goloneiddio ardaloedd eang. Mae tyfiant yn araf a gall planhigion gymryd ugain mlynedd neu fwy i flodeuo.


Plannwyd y rhywogaeth hon gan Philip Brown o hadau a gasglwyd yn Tresco. Mae 'Puya chilensis' Portmeirion newydd flodeuo.


Mae'r 'Puya chilensis' yn tyfu'n hawdd o hedyn a phan fo'n ifanc, gall wneud planhigyn tŷ da. Os caiff ei dyfu y tu allan, gall wrthsefyll barrug ysgafn a hyd yn oed oroesi tymheredd dros nos mor isel â phum gradd Celsius o dan y rhewbwynt am gyfnod byr.


Mae angen pridd heb galch, wedi'i ddraenio'n dda ar y 'Puya chilensis'. Gall wrthsefyll sychder ond mae angen digon o ddŵr arno yn ystod misoedd yr haf. Tuedda i bydru yn ystod y gaeaf os yw'n rhy wlyb. Mae'n gallu goddef ychydig o gysgod, ond mae'n tyfu orau yng ngwres yr haul.

 


'Acradenia frankliniae' (coeden Whitey-wood): Mai 2008

Dyddiad plannu: 1995
Lleoliad: Y Sgwâr Canolog
Tarddu o: Tasmania
Ffeithiau: Mae'r 'Acradenia frankliniae' - "coeden Whitey-wood"  - yn goeden fytholwyrdd brin o Tasmania, tebyg i lwyn o ran ffurf. Cynhyrchir toreth o flodau bychain gwyn yn gynnar yn mis Mai.  Gellir eu gweld ar y goeden drwchus gul ei siâp yn ymyl porth bwaog y brif fynedfa - yn yr ardal furiog yng nghanol pentref Portmeirion.
Yn ystod y gaeaf, gall fod yn sialens i'r ymwelydd sydd â diddordeb botanegol ei hadnabod, ac enwi'r rhywogaeth brin sy'n anarferol iawn gan fod iddi ddail bychain teirdalen gyferbyn sy'n bigog pan gânt eu malu. Mae hyn yn nodweddiadol o'r deulu - y Rutaceae.
Mae'r 'Acradenia frankliniae'  yn goeden/llwyn endemig godidog o deulu'r Sitrws (Rutaceae). Mae ganddi ddail cadarn dwfn a sgleiniog, teirdalen a blodau gwyn llachar. Nodwedd ddiagnostig yw'r chwarennau diddorol ar yr ofwl.


Mae'r 'Acradenia frankliniae' yn un o ddau rywogaeth o'r Acradenia. Mae'r rhywogaeth arall, sef yr 'Acradenia euodiiformis' yn gynhenid i Dde Cymru Newydd, Awstralia. Mae'r 'Acradenia frankliniae' yn gynhenid i ardaloedd gorllewinol Tasmania, lle gwelir y 'Whitey- wood' yn naturiol.

 


'Magnolia Elisabeth' : Mai 2008

Dyddiad plannu: 1990
Lleoliad: Tŷ'r Clogwyn
Tarddu o: UDA

Plannodd Evamaria Sperber hedyn newydd ei groesi yng Ngardd Fotaneg Brooklyn yn 1957. Gan ei fod yn tyfu o hedyn, cymerodd hyd at 1972 cyn i'r blodyn cyntaf ymddangos. 5 mlynedd yn ddiweddarach, trefnodd Ms Sperber ei fod yn cael rhif patant (US PP4145), a'i enwi er anrhydedd i gyfarwyddwr a chymwynaswr yr Ardd, sef Elizabeth van Brunt. Mae'n groesiad rhwng 'Magnolia acuminata' a 'Magnolia denudata'.

Mae lliw'r blodau rywle rhwng lliw briallen cyfoethog a melyn menyn, gan ddibynnu ar leoliad a'r amgylchiadau, gyda chysgodion gwyrdd golau ar y tu allan tuag at waelod y blodamlenni. Wedi ymagor yn ffres o'r blagur, maent yn eistedd yn unionsyth ar ganghennau noeth am ddiwrnod neu ddau, cyn agor gan ddangos briger melyn cyfoethog yn eu canol. Mae'r petalau'n 5-7cm o hyd, o siâp hirgrwn, gyda phennau crynion, ychydig yn donnog. Pan fyddant wedi agor yn llawn, mae'r blodau hyd at 8cm o led. Mae planhigion impiedig yn blodeuo yn yr 2il neu'r 3edd flwyddyn.

Mae'r dail cwympol yn wrthwyffurf, o dipyn o faint, 12-23 cm o hyd a 7-10 cm o led. Maent yn wyrdd ffres o'r gwanwyn i'r hydref, pan fyddant yn troi'n lliw melyn neu felyn-frown ac yn disgyn yn sydyn. Mae'r prysglwyn yn tyfu mewn siâp pyramid a gall dyfu i 4-5m o uchder a hanner hynny o led fel rheol mewn 20 mlynedd.

 

'Gunnera Manicata' : Mai 2008


Dyddiad plannu: 1960 - 1980
Lleoliad: Sawl un - y pwll ger Caffi Glas, Llyn y Deml, Cwm Cysgod
Tarddu o: Brasil (mynyddoedd Serra do Mar)


Ffeithiau: Mae'r 'Gunnera' yn fath o blanhigion blodeuog llysieuol, rhai ohonynt yn anferth. Y rhywogaeth yw'r unig aelod o'r teulu Gunneraceae. 'Gunnera manicata', brodor o fynyddoedd y Serra do Mar yn ne-ddwyrain Brasil, yw'r rhywogaeth mwyaf, â dail sydd fel arfer 1.5-2 m (5-6 troedfedd) o led, ond yn eithriadol o hir, hyd at 3.4 m (11 troedfedd), a gludir ar ddeilgoesau tew, suddlon (petioles) hyd at 2.5 m (8 troedfedd) o hyd. Mae'n egino orau mewn amgylchiadau llaith iawn, ond heb fod yn wlyb, a thymeredd rhwng 22 a 29°C.

Fe'i adnabyddir orau fel y 'riwbob anferth', ac mae'n blanhigyn addurniadol o fewn teulu'r Gunneraceae. Mae gan ochr isaf y ddeilen a'r coesyn ar ei hyd bigau arnynt. Mae dail y 'Gunnera' yn tyfu i faint sylweddol iawn. Mae dail sydd dros tair troedfedd o ddiamedr yn gyffredin iawn. Mae'r planhigyn hwn yn tyfu orau mewn amgylchiadau llaith, e.e. wrth ochrau pyllau mewn gerddi. Cyfnod blodeuo: Gorffennaf i Awst.

 

 

Ebrill 2008: 'Puya chilensis'

Plannwyd - 1992
Lleoliad - Gardd Tŵr Telford
Tarddu o Chile
Ffaith: Blodau melyn. Prin iawn yn y DU.
Math o blanhigyn o'r teulu pîn-afal o Dde America (Bromeliaceae) sy'n cynnwys tua 120 o rywogaethau, gan gynnwys y bromeliaid talaf  'P. Gigas' (P. raimondii), brodor o ogledd De America, sy'n tyfu mwy na 10m (tua 33 troedfedd) o uchder ac yn ffurfio coesyn blodyn sydd bron iawn yn 5.4m o uchder.

Mae'r rhan fywaf o rywogaethau yn tyfu ar lethrau oer, caregog mynyddoedd yr Andes. Mae'r coesau'n drwchus ac yn brennaidd. Mae gan y dail hir a chul ymylon pigog anystwyth sy'n tyfu mewn rhoséd drwchus. Mae sawl rhywogaeth, megis y 'P. Alpestris' a'r 'P. Chilensis', yn cael eu tyfu tu mewn i'r tŷ fel planhigion addurnol. Mae dail y 'P. Chilensis' yn ffynhonnell ffeibr a ddefnyddir weithiau i wneud rhwydi pysgota.
Bromelia daearol yw'r 'Puya chilensis', sy'n hanu o lechweddau crinsych Chile. Planhigyn bytholwyrdd parhaol ydyw sy'n ffurfio'i ddail mewn rhosedau trwchus llwyd-wyrdd mawr, fel strapiau, ag ymylon pigau bachog. Caiff y blodau gwyrdd-felyn eu ffurfio ar bigau hyd at 2 m o uchder sy'n debyg i ddrysfa ganoloesol. Mae'n ymledu drwy flaguro, a thros gyfnod o amser gall y 'Puya chilensis' goloneiddio ardaloedd eang. Mae tyfiant yn araf a gall planhigion gymryd hyd at 20 mlynedd neu fwy i flodeuo. Mae pigau'r dail yn pwyntio tuag i mewn yn ogystal â thuag allan ac weithiau'n gallu dal adar ac anifeiliaid bychain. Gan na all yr ysglyfaeth ddianc, mae'n marw o newyn ac yna mae dadfeiliad y corff wedyn yn darparu maetholion ychwanegol i'r 'Puya'.
Eleni, mae'r 'Puya chilensis' ym Mhortmeirion ar fin blodeuo - chwiliwch am blanhigyn a chanddo flodau melyn arno.
Roedd gan y 'Puya alpestris' a flodeuodd yma yn Ebrill 2007 flodau glas - gweler y llun.

 


Ebrill 2008 : 'Magnolia campbellii'

Plannwyd - 1950au
Lleoliad - Tu ôl i Gaffi Glas
Tarddu o Nepal / Bhwtan
Ffeithiau - Blodeuo cyn deilio, ac yn parhau am 3 wythnos os na cheir rhew.
Rhywogaeth o Fagnolia yw 'Magnolia Campbellii' sy'n tyfu mewn dyffrynnoedd cysgodol yn yr Himalaia o ddwyrain Nepal, Sicim ac Asám hyd at ddwyrain i dde-orllewin Tsieina (de Xizang neu Tibet, Yunnan, de Sichuan) a de i ogledd Myanmar.


Mae'n goeden collddail o faint canolig i fawr sy'n tyfu hyd at 30m, weithiau i 45m, yn dal, â rhisgl llyfn llwyd. Mae'r dail yn 10-23 cm (weithiau i 33 cm) o hyd a 4.5-10 cm (weithiau i 14 cm) o led, yn grychiog oddi tanynt a chyda blaen main. Mae'r blodau yn fawr iawn, 15-25 cm (weithiau'n 35 cm) o ddiamedr, â 12-16 o betalau, sy'n amrywio o rai gwyn i rai pinc tywyll. Maent yn ymddangos yn gynnar iawn, cyn y dail, gan agor rhwng diwedd y gaeaf a'r gwanwyn cynnar. Ar ôl agor, mae'r tepalau dyfnaf yn parhau i godi tra bod y lleill yn lledaenu yn eang. Gall y trefniant hwn gysgodi'r briger a'r stigmâu rhag y glaw, yr eira, ac amgylchiadau geirwon eraill sy'n gyffredin yn ystod cyfnod cynnar y blodeuo.


Mae yna ddau amrywiaeth:

'Magnolia campbellii var. campbellii'. Rhan orllewinol ystod y rhywogaeth, yn yr Himalaia. Blagur a choesynnau blodau tenau blewog.


'Magnolia campbellii var. mollicomata'. Rhan ddwyreiniol ystod y rhywogaeth, yn Yunnan a'r ardal o gwmpas. Blagur mwy blewog, coesau blodau ffeltiog trwchus.

Fe'i tyfir fel coeden addurnol oherwydd ei blodau anhygoel, er bod blodeuo llwyddiannus yn gyfyngedig i ardaloedd mwyn heb rew ddiwedd y gwanawyn; 'var. mollicomata' yn blodeuo ychydig yn hwyrach ac yn llai tebygol o gael ei difrodi gan rew. Mae coed ifanc yn cymryd amser hir i gyrraedd oed blodeuo ac maent angen pridd dwfn a llaith, mewn safle mwyn a chysgodol. Enwyd sawl cyltifar, gan gynnwys yr 'Alba' (blodau gwyn), 'Charles Raffil' (blodau llachar piws-pinc; sy'n dechrau blodeuo ar goed iau), a'r 'Strybing White' (blodau gwyn). Datblygwyd nifer o groesiadau â Magnolias eraill hefyd.

 

 

Ebrill 2008 : 'Rhododendron Fragrantissimum'


Plannwyd - 1980au
Lleoliad - Y Sgwâr (Piazza)
Tarddu o Tsieina /Japan
Ffaith: Peraroglus iawn. Blodyn rhosyn gwyn gwridog.

Mae'r 'Rhododendron cv. Fragrantissimum' yn groesryw sylfaenol a dyfwyd cyn 1868 gan ddefnyddio'r rhywogaethau 'Rhododendron edgeworthii' a'r 'Rhododendron formosum'. Mae 'Fragrantissimum' yn llwyn bytholwyrdd. Blodeua ym misoedd Mawrth-Ebrill. Blodau mawr gwyn â gwrid o binc. Peraroglus iawn. 1m x 1m. Pridd asidig i niwtral, llysieubridd cyfoethog, llaith, sydd wedi ei ddraenio'n dda. Heulog neu rannol gysgodol.

 


Ebrill 2008 : 'Rhododendron macabeanum'

Plannwyd: 1920au
Lleoliad: tu ôl i Gaffi Glas
Tarddu o Manipur
Ffeithiau: Blodeuo am 6 wythnos. Un o'r 'Kingdom Wards'. Plannwyd ym Mhortmeirion gan Caton Haig.
Agwedd gyffredinol a tharddiad - Mae'r 'Rhododendron macabeanum' yn rhododendron o'r adran 'Ponticum', sy'n frodor o ogledd-ddwyrain yr India. Prysglwyn neu goeden fychan yw hon, sydd ag agwedd gymharol unionsyth iddi, ac sydd fwyaf diddorol mewn ardaloedd rhannol-gysgodol a dangosiadau cysgodol.
Dail - mae'r dail yn rhai bytholwyrdd, o liw gwyrdd tywyll sgleiniog a hyd at 12-16 modfedd, (30-45cm o faint), gydag indwmentwm gwyn ar yr ochr isaf. Mae dail newydd yn llwyd-wyrdd golau ac wedi eu fframio â blodeulenni lliwgar.
Blodau - Mae'r blodau o liw melyn ysgafn i felyn llachar, gydag arlliwiau coch. Maent yn blodeuo rhwng dechrau a chanol y gwanwyn.

 


Ebrill 2008 : 'Coeden Rhedyn Dicksonia Antartica'

Plannwyd: 1980au
Lleoliad - mewn nifer o ardaloedd yn y Gwyllt.
Tarddu o Ddwyrain Awstralia a Tasmania
Ffeithiau - Gall dyfu hyd at 20 troedfedd o uchder. Mae ffrondau newydd yn agor yn gynnar ym mis Ebrill.

Mae'r 'Dicksonia' yn un math o'r coed rhedyn yn nhrefn Cibredyn. Fe'i hadnabyddir fel perthynas i'r Cibredyn, ond fe'i hystyrir yn fwy cyntefig, yn dyddio'n ôl i gyfnod y Jurasig a'r Cretasaidd o leiaf. Mae'r cofnod ffosil yn cynnwys coesynnau, pinwlâu a sborau.

Mae'r math hwn yn cynnwys 20-25 rhywogaeth, wedi'u dosbarthu o Mecsico i Wrwgwái a Chile, St. Helena, Seland Newydd, Awstralia, Indonesia, Gini Newydd, a'r Philipinau. Gini Newydd sydd â'r amrywiaeth fwyaf, gyda phum rhywogaeth.

Y rhywogaeth sydd wedi'i thyfu fwyaf o'r 'Dicksonia' yw'r 'Goeden Rhedyn Feddal' (D. Antarctica).

Disgrifiwyd y rhywogaeth am y tro cyntaf gan Charles Louis L'Héritier de Brutelle yn 1788. Mae'r enw yn anrhydeddu James Dickson, meithrinwr a botanegwr blaenllaw

Cofrestru a’n cylchlythyr

I gael gwybod am y newyddion a cynnigion diweddaraf yn Mhortmeirion yna ymunwch a'n cylchlythyr

Diolch yn Fawr

Mi rydych wedi llwyddo i gofrestru a Cylchlythyr Portmeirion